Skip to main content

This job has expired

Census Team Leaders

Employer
Office for National Statistics
Location
Homeworking
Salary
Depending on Location
Closing date
21 Jan 2021

View more

Census team leaders

37 hours a week

Contract: 16 February 2021 to 7 May 2021 plus holiday

Salary dependent on location

Band 1 - £16.93

Band 2 - £14.67

Band 3 - £13.01

No fixed daily working hours but you must work within the following times:

Monday to Saturday: 9am and 8pm

Sundays and bank holidays: 10am and 4pm

Great communicators make the census

 

The census is a survey of the entire population of England and Wales that happens every 10 years. It’s run by the Office for National Statistics (ONS) and gives us a picture of all the people and households in England and Wales.

The information we collect is used to make decisions that affect everyone – things like how many schools, surgeries and hospitals we need.

To help us, we need a large field team to encourage everyone in their area to take part. The team meet people from all walks of life, gain valuable experience and play a part in improving their community’s future. 

The role

 

Do you have experience managing teams? In this important, temporary role, you will oversee and coordinate the field team in your assigned area, increase Census 2021 response rates, build our reputation and help us deliver a high-quality census. 

Your main task will be to manage a team of census officers. You will induct your officers as and when they join the team and, once they’re settled in, you will motivate and guide them through the different phases of the census.

Your team works remotely, so you must encourage and motivate them through regular contact, calls and team meetings. You will also deal with and escalate any issues that might come up. To help, you will have the support of a wider group of team leaders, an area manager on hand for advice, as well as the support of a census staff helpdesk and online help should you need it.

You will also work with census engagement managers as required to support wider community engagement at community events.

About you

As an experienced manager, you are well organised and make fair, effective decisions on time. Professionalism, confidence and resilience all matter. You will use your initiative, think independently and remain calm – even in challenging situations.

As this is a home-working role, you will need space you can use as an office. Access to a car will be essential in most locations. 

People make the census. If you are a supportive, motivational team leader who is interested in making Census 2021 a success for everyone, apply for a census team leader role.

We can only employ you if you are eligible to work for the Civil Service. Find out more about the Civil Service nationality rules.

COVID-19

Your health, and that of our field staff, is very important to us. We will be following the government’s safety guidelines about the coronavirus (COVID-19). Appropriate PPE (Personal Protective Equipment) will be provided to all staff. Social distancing will be maintained throughout the operation.  

 

                        Arweinwyr tîm y cyfrifiad

37 awr yr wythnos

Contract: Rhwng 16 Chwefror 2021 a 7 Mai 2021 + gwyliau

Cyflog yn ddibynnol ar leoliad

Band 1 – £16.93

Band 2 – £14.67

Band 3 – £13.01

Dim oriau gwaith dyddiol penodol ond bydd rhaid i chi weithio o fewn yr amseroedd canlynol:

O ddydd Llun i ddydd Sadwrn: rhwng 9am ac 8pm

Dydd Sul a Gwyliau Banc: rhwng 10am a 4pm

Cyfathrebwyr gwych sy'n gwneud y cyfrifiad

 

Arolwg o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yw'r cyfrifiad, sy'n diwgydd bob 10 mlynedd. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.

Caiff y wybodaeth rydym ni'n ei chasglu ei defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb – pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom.

 

Er mwyn ein helpu ni, mae angen tîm maes mawr arnom i annog pawb yn ei ardal i gymryd rhan. Mae'r tîm yn cwrdd â phobl o bob cefndir, yn ennill profiad gwerthfawr ac yn cyfrannu at wella dyfodol ei gymuned.

 

Y rôl

 

Ydych chi'n meddu ar brofiad o reoli timau? Yn y rôl dros dro, bwysig hon, byddwch yn goruchwylio ac yn cydlynu'r tîm maes yn eich ardal benodol, yn cynyddu cyfraddau ymateb Cyfrifiad 2021, yn meithrin ein henw da, ac yn ein helpu i gynnal cyfrifiad o ansawdd uchel.

 

Eich prif dasg fydd rheoli tîm o swyddogion y cyfrifiad. Byddwch yn sefydlu eich swyddogion wrth iddynt ymuno â'r tîm ac, ar ôl iddynt ymgyfarwyddo â'u rôl, byddwch yn eu cymell a'u harwain drwy gyfnodau gwahanol y cyfrifiad.

Bydd eich tîm yn gweithio o bell, felly bydd rhaid i chi ei annog a'i gymell drwy gadw mewn cysylltiad a chynnal galwadau a chyfarfodydd tîm rheolaidd. Byddwch hefyd yn delio ag unrhyw faterion a allai godi a'u huwchgyfeirio. Er mwyn helpu, bydd gennych gefnogaeth grŵp ehangach o arweinwyr tîm, rheolwr ardal wrth law i roi cyngor i chi, yn ogystal â chefnogaeth desg gymorth staff y cyfrifiad a chyfleuster cymorth ar-lein os bydd ei angen arnoch.

Byddwch hefyd yn gweithio gyda rheolwyr ymgysylltu'r cyfrifiad yn ôl yr angen er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb mewn digwyddiadau cymunedol.

Amdanoch chi

Fel rheolwr profiadol, rydych chi'n drefnus ac yn gwneud penderfyniadau teg ac effeithiol yn brydlon. Mae proffesiynoldeb, hyder a gwydnwch i gyd yn bwysig. Byddwch yn defnyddio eich menter eich hun, yn meddwl yn annibynnol ac yn gallu cadw'ch pen hyd yn oed mewn sefyllfaoedd heriol.

 

Gan fod hon yn rôl sy'n gofyn i chi weithio gartref, bydd angen lle arnoch y gallwch ei ddefnyddio fel swyddfa. Bydd y defnydd o gar yn hanfodol yn y rhan fwyaf o leoliadau.

 

Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad. Os ydych chi'n arweinydd tîm cefnogol a llawn cymhelliant, sydd â diddordeb mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais am rôl arweinydd tîm y cyfrifiad.

 

Gallwn ond eich cyflogi os ydych yn gymwys i weithio i'r Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy am reolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil.

 

COVID-19

Mae eich iechyd chi, ynghyd ag iechyd ein staff maes, yn hollbwysig i ni. Byddwn yn dilyn canllawiau diogelwch y llywodraeth ar y coronafeirws (COVID-19). Bydd cyfarpar diogelu personol priodol yn cael ei ddarparu i'r holl staff. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol drwy gydol gweithrediad y cyfrifiad.  

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert